
Mae’r oedolion yn hedfan yn agos i’r ddaear, gan aros yn aml i gymryd neithdar o flodau megis Mieri ac Ysgall. Gellir gwahaniaethu rhyngddi a’r Fritheg Berlog ar sail y perlau gwynnaidd mwy niferus sydd ar du isaf yr adennydd cefn, y sieffrynau duon sydd o gwmpas y perlau allanol, a’r smotyn canolig du sy’n fwy o faint.
Erys y glöyn byw yma’n eang ei ddosbarthiad ac yn niferus mewn mannau yn yr Alban a Chymru, ond mae ei niferoedd wedi gostwng yn arw yn Lloegr.
Maint a Theulu
• Teulu: Brithegion
• Maint: Canolig
• Amrywiad yn lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod): 41-44mm
Statws o ran cadwraeth
• Rhywogaeth Adran 41 o bwysigrwydd pennaf dan Ddeddf NERC yn Lloegr
• Rhestrwyd yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
• Rhestr Bioamrywiaeth yr Alban
• Statws dan Gynllun Gweithredu Bioamrywiaethol y DU: Rhywogaeth Flaenoriaethol
• Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Uchel
• Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth
Planhigion Bwyd y Lindys
Y planhigion bwyd a ddefnyddir gan amlaf yw Blodau’r Gwcw/Llysiau’r Drindod (Viola riviniana) a Fioled y Gors (V. palustris). Mae’n ymborthi’n achlysurol ar rywogaethau eraill o deulu’r fioled.
Cylch bywyd

Cynefin
Defnyddir pedwar prif gynefin: blaguriadau glaswelltirol llaith a rhostiroedd (yng ngogledd a gorllewin Prydain); llennyrch mewn coetir (yn ne Prydain yn bennaf); glaswelltir lle mae Rhedyn a/neu glytiau o brysgwydd a phorfa goetirol agored, ac ymylon coedwigoedd yn yr Alban.
Dosbarthiad
• Gwledydd: Lloegr, Yr Alban a Chymru
• Rhannau gorllewinol o ynys Prydain yn bennaf
• Prin iawn yn nwyrain Prydain, ac yn absennol o Iwerddon
• Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au: -76%
Factsheets
-
Rhedyn i Loynnod Byw
pdf 516.98 KB

Bob Eade
Y Fritheg Berlog Fach (is-adain)
Bob Eade

Andrew Cooper
Y Fritheg Berlog Fach (is-adain)
Andrew Cooper

Peter Eeles
Y Fritheg Berlog Fach_Boloria selene_(ŵy)
Peter Eeles

Peter Eeles
Y Fritheg Berlog Fach_Boloria selene_lindysyn
Peter Eeles