Gwelir y glöyn byw mawr grymus hwn fel rheol yn hedfan yn chwim uwchben y rhedyn neu’r tyfiant isel mewn llennyrch yn y coed. Tra’u bod yn hedfan mae hi bron yn amhosibl gwahaniaethu rhwng gwrywod y rhywogaeth hon a rhai’r Fritheg Werdd, sydd yn aml yn cydrannu’r un cynefinoedd. Ond mae’r ddwy rywogaeth yn ymweld yn aml â blodau megis Ysgall a Mieri, lle mae’n bosibl gweld y marciau gwahaniaethol ar du isaf yr adennydd. Nid oes gan y Fritheg Werdd y ‘perlau’ â chylch lliw oren o’u cwmpas sydd ar du isaf adenydd cefn y Fritheg Frown.

Bu’r Fritheg Frown yn eang ei gwasgariad unwaith ar draws Cymru a Lloegr ond ers y 1950au mae wedi dioddef dirywiad syfrdanol. Mae hi wedi’i chyfyngu bellach i ryw 50 o safleoedd lle mae cadwraethwyr wrthi’n gweithio i’w hachub rhag diflannu’n llwyr.

Maint a Theulu

•    Teulu: Brithegion
•    Maint: Mawr
•    Amrywiad yn lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod): 60-67mm

Statws o ran cadwraeth

•    Rhywogaeth Adran 41 o bwysigrwydd pennaf dan Ddeddf NERC yn Lloegr
•    Rhestrwyd yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
•    Statws dan Gynllun Gweithredu Bioamrywiaethol y DU: Rhywogaeth Flaenoriaethol
•    Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Uchel
•    Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth
•    Amddiffynir yn llawn dan Orchymyn Bywyd Gwyllt Gogledd Iwerddon 1981

Planhigion Bwyd y Lindys

Defnyddir Llysiau’r Drindod (Viola riviniana) ym mhob cynefin, ond defnyddir Crinllys Blewog (V. hirta) yn ogystal yn ardaloedd y calchfaen. Defnyddir Fioled y Cŵn (V. canina) a Chrinllys y Goedwig (V. lactea) yn achlysurol .

Cylch Bywyd

 

Cynefin

Defnyddir dau brif gynefin: cynefinoedd lle y ceir Rhedyn fel tyfiant trechaf neu glytweithiau o laswellt a Rhedyn; a brigiadau calchfaen (a hynny fel rheol lle mae prysgwydd neu goetir wedi cael eu clirio neu eu bondocio’n ddiweddar).

Dosbarthiad
Fritheg Frown_Dosbarthiad
Fritheg Frown_Dosbarthiad

•    Gwledydd: Lloegr a Chymru
•    Y Fritheg Frown yw’r glöyn byw sydd dan y bygythiad mwyaf enbyd o ddiflannu o ynys Prydain; mae wedi dioddef dirywiad ysgubol. Yr unig gadarnleoedd a erys bellach yw cerrig calch Bae Morecambe, Dartmoor, Exmoor ac un gytref yng Nghymru (Bro MOrgannwg).
•    Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au: -96%.

Ffeithlenni

Rhedyn i Loynnod Byw

 

Fritheg Frown (is-adain)_Paul Dunn

Fritheg Frown (is-adain)

Fritheg Frown (lindysyn)_P Dunn

Fritheg Frown (lindysyn)_P Dunn

Fritheg Frown_Old Castle Down

Fritheg Frown_Old Castle Down