Maint a Theulu
- Teulu – Y Nymphalidiaid
- Mawr
- Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 67-72mm
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Heb ei asesu
- Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Isel
- Statws Ewropeaidd: Heb ei asesu
Planhigion bwyd y lindys
Planhigyn bwyd pwysicaf y larfâu ym Mhrydain ac Iwerddon, sydd ar gael yn gyffredin ymhobman, yw Danadl Poethion (Urtica dioica). Ond mae Danadl Bach (U. urens) a’r rhywogaeth berthynol Paladr y Wal (Parietaria judaica) a Hopys (Humulus lupulus) yn cael eu defnyddio hefyd.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
- Yn gyffredin ar hyd a lled Prydain ac Iwerddon
- Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: +25%
Cynefin
Gellir dod o hyd iddo mewn unrhyw gynefin ymron, o erddi i lannau’r môr ac o ganol trefi i bennau mynyddoedd!