Mae’n hawdd peidio â gweld ein glöyn byw brodorol lleiaf i gyd, yn rhannol oherwydd ei faint a’i liw tywyll, ond yn rhannol hefyd oherwydd na ddeuwn o hyd iddo’n aml ond ar glytiau bach o laswelltir cysgodol lle mae ei unig blanhigyn bwyd, sef Meillion Melyn (Bysedd Mair), i’w weld yn tyfu.
Mae’r gwrywod yn sefydlu eu tiriogaeth mewn lleoliadau cysgodol, ar laswellt tal neu brysgwydd. Ar ôl cyplu, mae’r benywod yn ymwasgaru i ddodwy wyau, ond gellir gweld y ddau ryw o ddiwedd y prynhawn ymlaen mewn clwydi cymunedol, â’u pennau i lawr ymhlith y glaswellt hir. Mae niferoedd y rhywogaeth hon, sy’n tueddu i fyw mewn cytrefi bach, yn gostwng ym mhob ardal bron. Fe’i ceir ledled Prydain ac Iwerddon ond mae’n brin ac yn gyfyngedig ei wasgariad.
Maint a Theulu
• Teulu: y Gleision
• Maint: Bach
• Amrywiad yn lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod): 20-30mm
Statws o ran cadwraeth
Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Canolig
• Rhywogaeth Adran 41 o bwysigrwydd pennaf dan Ddeddf NERC yn Lloegr
• Rhestrwyd yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
• Rhywogaeth Flaenoriaethol yng Ngogledd Iwerddon
• Statws dan Gynllun Gweithredu Bioamrywiaethol y DU: Rhywogaeth Flaenoriaethol
• Amddiffynir dan Atodlen 5 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (i ddibenion gwerthu yn unig)
• Amddiffynir yn llawn dan Orchymyn Bywyd Gwyllt Gogledd Iwerddon 1985
• Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth
Planhigion Bwyd y Lindys
Yr unig blanhigyn bwyd yw Meillion Melyn (Anthyllis vulneraria). Mae’r larfâu’n byw ym mhennau’r blodau’n unig, gan ymborthi ar yr antheri sy’n datblygu a’r hadau.
Cylch bywyd
Dosbarthiad
• Siroedd: Lloegr, Yr Alban, Iwerddon a Chymru
• De Canolbarth Lloegr yn bennaf ond gellir cael hyd iddo ar hyd rhai o arfordiroedd dwyreiniol yr Alban, arfordir deheuol Cymru ac arfordiroedd dwyreiniol a gorllewinol Iwerddon.
• Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au: -44%
Factsheets
-
Daear Noeth y Loynnod Byw a Gwyfynod
pdf 9.90 MB
Y Glesyn Bach, Cupido minimus - Iain Leach
Y Glesyn Bach (gwryw, is-adain) - Bob Eade
Y Glesyn Bach (gwryw, is-adain)
Y Glesyn Bach (gwryw, is-adain) - Bob Eade
Gilles San Martin
Y Glesyn Bach (ŵyau) - Cupido minimus
Gilles San Martin
Peter Eeles
Glesyn Bach_(ŵy)
Peter Eeles