Gellir adnabod Glesyn y Celyn yn hawdd ar ddechrau’r gwanwyn, gan ei fod yn ymddangos yn gynharach o lawer na’r gleision eraill. Mae’n tueddu i hedfan yn uchel o gwmpas llwyni a choed, tra bod gleision eraill y glaswelltir yn aros fel arfer yn agos i’r ddaear. Hwn yw’r glesyn mwyaf cyffredin o lawer a welir mewn parciau a gerddi lle mae’n cynull o gwmpas Celyn (yn y gwanwyn) ac Eiddew/Iorwg (tua diwedd yr haf).

Er bod Glesyn y Celyn wedi’i ddosbarthu’n eang, gwelir amrywiadau sylweddol yn ei niferoedd o flwyddyn i flwyddyn. Mae wedi ymledu tua’r gogledd dros y blynyddoedd diwethaf gan gytrefu rhannau o ganolbarth a gogledd Lloegr.

Maint a Theulu

  • Teulu – Y Gleision
  • Bach ei faint
  • Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 35mm

Statws o ran cadwraeth

  • Statws UK BAP: Heb ei restru
  • Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Isel
  • Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth
  • Wedi’i amddiffyn yng Ngogledd Iwerddon

Planhigion bwyd y lindys

Mae’r larfâu’n ymborthi’n bennaf ar flagur blodau, aeron a dail terfynol Celyn (Ilex aquifolium) yng nghenhedlaeth y gwanwyn, ac Eiddew (Hedera helix) yng nghenhedlaeth yr haf. Mae’n bosibl i larfâu cenhedlaeth y gwanwyn gwblhau eu datblygiad gan fwyta dail llwyni Celyn gwrywaidd yn unig, er bod y llwyni benywaidd yn well ganddynt. Yn ogystal maent yn defnyddio rhychwant eang o blanhigion gwyllt a rhai’r ardd gan gynnwys Pisgwydd (Euonymus europaeus), Cwyrwiail (Cornus spp.), Llus yr Eira (Symphoricarpos spp), Eithin (Ulex spp.) a Mieri (Rubus fruticosus).

Dosbarthiad

  • Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
  • Wedi’i ddosbarthu’n eang ar draws Cymru a Lloegr, yn brinnach yn Iwerddon
  • Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = +36%

Cynefin

Ymwelydd cyffredin â gerddi a welir hefyd mewn parciau, mynwentydd, perthi a rhodfeydd coetirol.

Glesyn y Celyn* (uwch-adain)

Glesyn y Celyn* (uwch-adain) (Celastrina argiolus)

Glesyn y Celyn* (is-adain)

Glesyn y Celyn* (is-adain)

Glesyn y Celyn (ŵy)

Glesyn y Celyn* (ŵy)

Glesyn y Celyn (lindysyn)

Glesyn y Celyn* (lindysyn)

Glesyn y Celyn (chwiler)

Glesyn y Celyn* (chwiler)