Fe’i ceir mewn coetiroedd, gerddi a pherthi. Yn aml mae’r glöynnod byw mewn oed yn glanio mewn mannau heulog ac yn esgyn oddi yno’n droellog i’r awyr i gwrso ei gilydd.
Mae enw Saesneg y Gweirlöyn Brych – Speckled Wood – yn disgrifio i’r dim ei arfer o hedfan trwy goetiroedd cysgodlyd lle mae’r heulwen yn frith. Mae’r gwryw yn glanio fel arfer mewn pyllyn o heulwen, gan esgyn yn chwim ohono i herio unrhyw dresbaswr ar ei diriogaeth. Mae’r ddau ryw yn ymborthi ar felwlith ym mrigau’r coed ac anaml y’u gwelir yn ymborthi ar flodau, ac eithrio tua dechrau a diwedd y flwyddyn pan fydd pryfed gleision yn brin.
Crebachodd dosbarthiad y rhywogaeth hon yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, ond mae hi wedi ad-ennill tir ers y 1920au. Mae hi wedi parhau i ymledu dros y ddau ddegawd diwethaf, gan ailgytrefu llawer o ardaloedd yn nwyrain a gogledd Lloegr a’r Alban.
Maint a Theulu
- Teulu – Gweirlöynnod
- Canolig ei faint
- Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 47-50mm
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Heb ei restru
- Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Isel
- Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth
Planhigion bwyd y lindys
Breichwellt (Brachypodium sylvaticum); Troed y Ceiliog (Dactylis glomerata); Maswellt Sypwraidd (Holcus lanatus); Marchwellt (Elytrigia repens).
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
- Ledled Lloegr (ac eithrio’r gogledd pell), Cymru ac Iwerddon, a gogledd Yr Alban
- Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: +31%
Cynefin
Rhodfeydd a llennyrch coetirol, gerddi, parciau a pherthi. Ymddengys ei fod yn ffafrio ardaloedd cymharol laith lle y mae glaswellt tal â pheth cysgod.