Ac yntau newydd ddeor mae golwg felfedaidd ar Weirlöyn y Glaw, sydd bron yn ddu ag ymyl gwyn i’r adenydd. Mae’r cylchoedd bach ar yr is-adenydd sy’n cyfrif am enw’r gweirlöyn hwn yn Saesneg (Ringlet) yn amrywio o ran nifer a maint. Gallant fod yn fawr ac yn hir, neu’n smotiau bach gwynion, weithiau heb y cylch du. Glöyn byw brown tywyll yw hwn, sy’n debyg i Weirlöyn y Ddôl gwrywaidd.
Mieri ac Yswydd (Prifet) Gwyllt yw ei hoff ffynonellau neithdar, ac mae’r oedolion yn dal i hedfan â’u patrwm siglog nodweddiadol mewn tywydd cymylog di-haul pan fydd y rhan fwyaf o löynnod byw eraill wedi rhoi’r gorau iddi.
Mae’r gweirlöyn cyffredin hwn wedi estyn cwmpas ei ddosbarthiad yn Lloegr a’r Alban yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’n gyffredin ar laswelltiroedd llaith ar hyd a lled Prydain ac Iwerddon.
Maint a Theulu
- Teulu – Y Browniaid
Canolig ei faint
Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 48-52mm
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Heb ei restru
- Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Isel
- Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth
Planhigion bwyd y lindys
Defnyddir glaswelltydd brasach gan gynnwys Troed y Ceiliog (Dactylis glomerata), Breichwellt y Waun (Brachypodium sylvaticum), Brigwellt Garw (Deschampsia cespitosa), Marchwellt (Elytrigia repens), a Gweunwelltydd (Poa spp.). Gall rhywogaethau eraill o laswellt gael eu defnyddio’n ogystal.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
- Fe’i ceir ymhobman ar wahân i ogledd yr Alban
- Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: +16%
Cynefin
Rhodfeydd a llennyrch coetirol lle mae’r glaswellt yn tyfu’n doreithiog dal (mae’n hoff o fannau llaith â chysgod rhannol). Mae’r göyn hwn hefyd yn mynychu tir comin, min y ffordd a glannau afonydd, yn enwedig ar briddoedd cleiog. Mewn ardaloedd gogleddol fe’i ceir mewn cynefinoedd mwy agored â llai o gysgod.