Fe’i ceir ledled Lloegr ac ar safleoedd gwasgarog yng Nghymru ond mae’n mynd yn brinnach brinnach. Mae’r adenydd yn ddu neu’n frown tywyll, ac arnynt batrwm ‘bwrdd draffts’ o smotiau gwynion. Glöyn bach â phatrwm hedfan isel gwibiog yw hwn. Mae’r Gwibiwr Llwyd yn debyg iddo o ran maint, ond mae adenydd hwn yn welwach o lawer.
Mae’r Gwibiwr Brith yn löyn gwanwynol nodweddiadol ar dwyndiroedd sialc deheuol a chynefinoedd eraill lle mae’r llystyfiant yn denau. Gall fod yn anodd i’w ddilyn oherwydd ei fodd cyflym o hedfan dan suoganu, ond mae’n aros yn rheolaidd i glwydo ar frigyn amlwg neu i ymborthi ar flodau megis Pys Ceirw neu Lesyn y Coed. Gellir cadarnhau ei hunaniaeth yn gymharol hawdd wedyn trwy chwilio am y ‘bwrdd draffts’ gwyn a du ar ei adenydd.
Mae’r glöyn hwn i’w weld ar hyd a lled de Lloegr, a hynny mewn nythfeydd bychain gan amlaf. Yng Nghymru mae ei bresenoldeb yn gyfyngedig i arfordir y de a safleoedd ôl-ddiwydiannol yn y gogledd ddwyrain.
Maint a Theulu
- Teulu: y Gwibwyr
- Maint: Bach
- Amrywiad yn lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod): 27mm
Statws o ran cadwraeth
- Rhywogaeth Adran 41 o brif bwysigrwydd dan y Ddeddf NERC yn Lloegr
- Rhywogaeth Adran 7 o brif bwysigrwydd dan y Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
- BAP y DU: Rhywogaeth Flaenoriaethol
- Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Uchel
- Statws Ewropeaidd o ran bygythiadau: Heb fod dan fygythiad
Planhigion Bwyd y Lindys
Defnyddir amrwiaeth o blanhigion o deulu’r Rosaceae, ac yn bennaf Llysiau’r Dryw (Agrimonia eupatoria), Pumbys Ymlusgol (Potentilla reptans) a Mefus Gwyllt (Fragaria vesca). Yn ogystal gallant ymborthi ar Fefus Coeg (P. sterilis), Tresgl y Moch (P. erecta), Bwrned (Sanguisorba minor), Mieri (Rubus fruticosus), Rhosod Gwyllt (Rosa canina) a Mapgoll (Geum urbanum).
Dosbarthiad
- Gwledydd: Lloegr a Chymru
- Dosbarthiad gwasgarog a gostyngol ar draws Lloegr a Chymru
- Tuedd y dosbarthiad ers y 1970au = -49%
Cynefin
Defnyddir tri phrif fath o gynefin: rhodfeydd, llennyrch a llecynnau agored mewn coetiroedd; glaswelltir heb ei wella, yn enwedig twyndiroedd sialc ond hefyd ar briddoedd calchaidd eraill gan gynnwys cleiau; a safleoedd diwydiannol sydd wedi cael eu gadael yn segur yn ddiweddar megis lefelydd mwnol segur, tomenni rwbel, rheilffyrdd a thomenni sbwriel hyd yn oed. O bryd i’w gilydd mae’r Gwibiwr Brith yn epilio ar rostiroedd, glaswelltiroedd llaith a thwyni.
Ffeithlenni
- Daear Noeth
- Brownfields for butterflies / Tir llwyd ar gyfer glöynnod byw pdf 196Kb
- Grizzled Skipper Priority Species Factsheet / Ffeithlen Rhywogaeth Flaenoriaethol y Gwibiwr Brith pdf 276Kb
- Grizzled Skipper in eastern England / Y Gwibiwr Brith yn nwyrain Lloegr pdf 528Kb
- Butterflies in towns and cities / Glöynnod byw mewn trefi a dinasoedd pdf 561Kb
- Woodlands for Butterflies and Moths / Coetiroedd ar gyfer Glöynnod Byw a Gwyfynod pdf 585Kb
Grizzled Skipper - Iain H Leach
Gwibiwr Brith* - Iain H Leach
Grizzled Skipper - Iain H Leach
Peter Eeles
Grizzled Skipper (egg)
Peter Eeles