Rhestr Gwyfynod Cymru 2020
Mae’n ymddangos nad yw’r cyfnod clo cyntaf wedi amharu ar yr ymgyrchoedd cofnodi yn 2020 gan fod 114 o gofnodion sirol newydd wedi cael eu derbyn, sef chwech yn fwy nag yn 2019. Efallai bod mwy o bobl wedi dechrau maglu gwyfynod yn eu gerddi yn ystod y cyfnod clo, ac mae’n siŵr bod y tywydd braf yn ystod cyfnod clo Mai-Mehefin wedi profi’n fuddiol i lawer o rywogaethau.
Cofnodwyd chwe rhywogaeth sy’n newydd i Gymru: y Coeswyntyll Fannog (Sir Drefaldwyn), yr Ôl-Adain Ruddgoch Dywyll a’r Pseudeustrotia Candidula (y ddau o Sir Fynwy) a’r micro-wyfynod Caryocolum kroesmanniella (Sir Ddinbych), Acleris abietana ac Evergestis extimalis (y ddau o Sir Fynwy). Rhywogaeth y coetir yw Caryocolum sydd yn fwy na thebyg yn breswylydd parhaol na sylwyd arno o’r blaen; mae’n debyg bod y lleill yn fewnfudwyr neu rai sydd wedi crwydro i mewn o boblogaethau yn Lloegr, ac a allai ymsefydlu yng Nghymru yn y dyfodol.
- Yn Sir Drefaldwyn y gwelwyd y nifer uchaf: 20 o rywogaethau newydd, gan gynnwys cyfanswm anhygoel o 8 o facro-wyfynod newydd (roedd gan bob sir arall rhwng dim a thri o facro-wyfynod newydd).
- Yn Ynys Môn y cafwyd y nifer uchaf o ficro-wyfynod newydd, sef 13, a Sir Fynwy a Sir Gaerfyrddin ar ei sodlau â deuddeg yr un.
- Parhaodd y Clifden Nonpareil (sef yr Is-Adain Las) i ehangu ei gwasgariad yn aruthrol; fe’i cofnodwyd mewn tair sir newydd yn 2020 (Sir Frycheiniog, Sir Gaernarfon a Sir Ddinbych). Erbyn hyn mae hi wedi cael ei chofnodi ym mwy na hanner is-siroedd Cymru ers ymddangos am y tro cyntaf ym Morgannwg yn 2017.
Diolch i bob un o gofnodwyr gwyfynod sirol Cymru am anfon manylion y rhywogaethau newydd a gofnodwyd yn eu siroedd yn 2020.