Mae’r gwyfyn tra gwahanol hwn wedi cael ei gamgymryd weithiau am y Glesyn Bach. Anaml y bydd ei liw yn amrywio ond gall droi’n frownach gyda thraul amser. Mae’n arfer bod yn brysur iawn yn ystod y dydd, yn enwedig os yw’r haul yn tywynnu.
Maint a Theulu
- Teulu – y Brychanau a rhywogaethau cysylltiol (Larentiiniaid)
- Bach
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Heb ei restru
- Cyffredin
Planhigion bwyd y lindys
Mae’n ymborthi ar flodau a hadau Cnau’r Ddaear.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
- Mae wedi’i ddosbarthu’n eang ac yn eithaf cyffredin yn yr Alban a gogledd Lloegr, ond mae ei ddosbarthiad yn fwy cyfyng o lawer o ganolbarth Lloegr i lawr tua’r de. Yng Nghymru mae’n eithaf cyffredin mewn ardaloedd penodol yn y gogledd a’r gorllewin, ond mae’n brin iawn yn ne a dwyrain y wlad. Mae i’w weld yn Iwerddon, er nad yw’n gyffredin iawn yno, a dim ond unwaith y mae wedi cael ei gofnodi ar Ynysoedd y Sianel.
Cynefin
Mae’n gyfyngedig i dwyndiroedd calchaidd, glaswelltir calchfaen, ymylon coedwig a pherthi yn ne ynys Prydain; mae’n fwy cyffredin yng ngogledd Prydain, lle mae i’w weld hefyd mewn cynefinoedd glaswelltog gwlyb.
Rhywogaethau tebyg
- Glesyn Bach
