Mae’n arfer hedfan o fis Mai tan ddechrau mis Gorffennaf, ond trwy gydol Gorffennaf yn yr Alban.
Maint a Theulu
- Teulu – Y Brychanau a Rhywogaethau Cysylltiol (Larentiiniaid)
- Bach / Canolig ei faint
- Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 30-38mm
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Rhywogaeth Flaenoriaethol
- Prin ar raddfa genedlaethol
Disgrifiad o’r Lindysyn
Mae’n treulio’r gaeaf fel chwiler. Bydd y larfa’n ymborthi rhwng dail nyddedig o ddiwedd mis Mai tan ddechrau mis Medi (yn yr Alban)
Planhigion bwyd y lindys
Bedw (Betula spp.), Helyg Mair (Myrica gale); hefyd Helyg Deilgron (Salix spp.) ar adegau.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Cymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon
- Wedi’i ddosbarthu’n helaeth yng ngorllewin yr Alban, ac efallai na sylwyd ar ei bresenoldeb mewn rhai ardaloedd; mae safleoedd gwasgaredig yng ngogledd Cymru, gogledd Lloegr, gorllewin Canolbarth Lloegr ac ar raddfa leol iawn bellach yn ne Lloegr. Dosbarthiad ehangach gynt yng Nghymru a Lloegr. Fe’i ceir hefyd yng ngogledd Iwerddon.
- Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: Yn dirywio
Cynefin
Coetir collddail wedi’i goedlannu, rhostir corsiog, ac un safle ar Wastatiroedd Gwlad yr Haf