Mae’n debyg i’r Gwalchwyfynod Gwenynaidd wrth hedfan, ond mae gan y Gwalchwyfyn Hofran ôl-adenydd orenfrown sy’n fwy amlwg tra’i fod yn hedfan. Mae ganddo flaen-adenydd llwydfrown a chorff brithliw du a gwyn.
Maint a Theulu
- Teulu – Y Gwalchwyfynod Gwenynaidd (Sphingidiaid)
- Canolig ei faint / Mawr
- Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 50-58mm
Statws o ran cadwraeth
- Mewnfudwr; Tybir ei fod wedi ymsefydlu
Disgrifiad o’r Lindysyn
Gwelir y larfâu rhwng mis Medi a mis Hydref yn bennaf, ac ym mis Awst gan amlaf. Maent yn treulio’r gaeaf fel oedolion mewn tai allan heb eu cynhesu a mewn holltau a thyllau mewn waliau a choed. Maent yn troi’n chwilerod mewn cocynau sy’n cael eu gweu yn agos i’r ddaear, ymhlith dail y planhigyn bwyd neu mewn deiliach marw.
Planhigion bwyd y lindys
Briwydd Felen (Galium verum), Briwydd y Clawdd (Galium album) a Chochwraidd Gwyllt (Rubia peregrina). Mae wedi cael ei weld yn dodwy wyau ar Driaglog Coch (Centranthus ruber).
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
- Mewnfudwr o Dde Ewrop a Gogledd Affrica. Wedi’i ddosbarthu’n eang ar hyd a lled gwledydd Prydain. Mae ar ei fwyaf niferus yn Ne a Dwyrain Lloegr, De Cymru a Chanolbarth Lloegr
- Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: Sefydlog
Cynefin
Fe’i ceir mewn ystod eang o gynefinoedd gan gynnwys ardaloedd arfordirol, gerddi, rhodfeydd coetirol a bocsys ffenestri trefol.