Mae’r adenydd blaen yn llwydfrown golosg eu lliw, â marciau tonnog gwyn hufennaidd. Mae’r benywod yn fwy o lawer na’r gwrywod.
Nid yw’r gwyfynod llawn dwf yn gallu ymborthi. Byddant yn hedfan gyda’r nos, ac maent yn cael eu denu gan oleuni. Ceir hyd i’r lindys o fis Ebrill tan fis Mehefin, yn ymborthi gyda’r nos neu’n gorffwys ar frigau neu risgl coed yn ystod y dydd, nes iddynt droi’n chwiler dan risgl neu ymhlith gweddillion marw planhigion. Maent yn treulio’r gaeaf ar ffurf wyau ar y planhigion ymborthi.
Maint a Theulu
• Teulu – Wyluniau (Lasiocampidae)
• Canolig ei faint
• Amrediad lled yr adenydd – 30-44mm
Statws o ran Cadwraeth
• UK BAP: Heb ei restru
• Cyffredin
Planhigion bwyd y lindys
Coed llydanddail gan gynnwys derw, bedw, llwyfenni, drain gwynion, drain duon (Prunus spinosa), poplys a helyg
Cynefin
Mewn coetiroedd y ceir hyd iddo gan amlaf, ond hefyd mewn tir prysg, perthi a gerddi sefydlog
Dosbarthiad
• Gwledydd – Cymru, Yr Alban, Lloegr
• Cyffredin. Wedi’i ddosbarthu’n eang ar draws rhannau helaeth o iseldiroedd Cymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon. Yn lleol a phrin ar ynys Guernsey