Mae’r lindys yn eu llawn dwf yn mesur hyd at 7cm o hyd. Mae ganddynt flew brown hir ar ochrau’r corff a blew oren tywyll sy’n fyrrach ar y cefn. Mae’r lindys iau’n frown tywyllach â bandiau oren golau ar hyd y corff. Mae’r lindys yn treulio’r gaeaf yn eu llawn dwf, gan ddod allan i orffwys dan heulwen y gwanwyn cyn chwilera ym mis Ebrill.
Enwir y rhywogaeth ar ôl lliwiad y gwyfyn llawn dwf; mae’r gwrywod o liw brown/ coch cadnoaidd fel arfer, tra bod y benywod yn llwydfrown. Mae’r gwrywod yn hedfan yn gyflym yn ystod prynhawniau heulog ym mis Mai a Mehefin, gan chwilio am fenywod, sy’n arfer dod allan gyda’r nos.
Maint a Theulu
- Teulu – Wyluniau (Lasiocampidiaid)
- Mawr
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Heb ei restru
- Cyffredin
Planhigion bwyd y lindys
Grugoedd, Llus a Chorhelyg (Helyg y Cŵn ar rostiroedd a gweundiroedd, Mieri ac Erwain mewn cynefinoedd gwlyb a Bwrned ar dwyndiroedd.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
- Wedi’i ddosbarthu’n helaeth ar draws y rhan fwyaf o Ynysoedd Prydain ac Iwerddon heblaw am Ynysoedd Heledd a Shetland.
Cynefin
Mae’n mynychu rhychwant amrywiol o gynefinoedd glaswelltirol gan gynnwys gweundir, twyndir, dolydd llaith, twyni tywod a choetir agored.
