Mae Wylun y Grug yn ffurf ogleddol/ ucheldirol o Wylun y Derw; serch hynny mae lindys y ddwy ffurf yn debyg iawn. Mae’r lindys ar eu llawn dwf yn mesur hyd at 8cm o hyd. Mae ganddynt flew hir llwydfrown a bandiau du ar hyd y corff, a marciau gwynion ar hyd yr ochrau. Mae’r lindys ifainc yn wahanol iawn – corff llwydlas â marciau lliw oren. Mae lindys Wylun y Derw yn deor ym mis Awst gan aeafu ar eu hanner dwf a mynd ymlaen i gwblhau eu cyfnod ymborthi yn ystod y gwanwyn canlynol. Mae’n cymryd dwy flynedd ar lindys Wylun y Grug i gwblhau eu tyfiant a gellir dod o hyd iddynt trwy gydol yr haf yn ogystal â’r gwanwyn a’r hydref.
Mae’r gwyfyn mewn oed yn fawr; ym mis Gorffennaf a mis Awst y bydd yn hedfan. Mae’r gwrywod yn hedfan yn ystod y dydd gan ddilyn patrwm igam-ogam, yn enwedig ar brynhawniau heulog. Mae’r benywod yn hedfan o ddechrau’r cyfnod ymlaen.
Maint a Theulu
- Teulu – Yr Wyluniau (Lasiocampidiaid)
- Mawr
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Heb ei restru
- Cyffredin
Planhigion bwyd y lindys
Grugoedd a Llus ar weundiroedd a rhostiroedd, ond mae’n ymborthi hefyd ar Fieri, Drain Duon, helyg, Drain Gwynion, Cyll, Rhafnwydd y Môr a phlanhigion coediog eraill.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Cymru, Yr Alban, Iwerddon
- Yn gyffredin ar draws y rhan fwyaf o’r Ynysoedd Prydeinig ac yn Iwerddon. Mae Wylun y Grug yn bresennol yng ngogledd Lloegr, Cymru, Yr Alban ac Iwerddon. Ceir Wylun y Derw yn ne a dwyrain Lloegr, Dwyrain Anglia, de Canolbarth Lloegr ac arfordiroedd Swydd Gaer a Swydd Gaerhirfryn. Mae rhai esiamplau o dde orllewin Lloegr yn debyg i Wylun y Grug.
Cynefin
Fe’u ceir mewn rhychwant amrywiol o gynefinoedd prysglyd agored, yn enwedig gweundir a rhostir, ond hefyd ar hyd ymylon coetir, perthi, “breckland” (gweundir tywodlyd llawn eithin a geir yng ngogledd Swydd Suffolk a de Swydd Norfolk, twyndir, mignedd, twyni tywod a chlogwyni ar lan y môr.