Mae’r lindys yn eu llawn dwf yn mesur hyd at 7cm o hyd. Maent yn llwyd tywyll â brychau euraid. Mae tuswau o flew ar hyd y corff. Mae llinell o duswau blew gwyn yn bresennol ar ddwy ochr y gorff. Mae’r lindys yn gaeafgysgu ar ôl iddynt dyfu’n rhannol ac yn parhau i ymborthi yn y gwanwyn, gan gyrraedd eu llawn dwf erbyn mis Mehefin. Gellir dod o hyd iddynt yn y gaeaf weithiau yn gorffwys ar goesynnau gwair ac ar frigau llwyni. Maent yn ymborthi gyda’r nos yn bennaf yn y gwanwyn, ond gellir eu gweld yn ystod y dydd yn gorffwys ar lefelau isaf llystyfiant.
Mae’r oedolion yn hedfan gyda’r nos yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst.
Maint a Theulu
- Teulu – Yr Wyluniau (Lasiocampidiaid)
- Mawr
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: heb ei restru
- Cyffredin
Planhigion bwyd y lindys
Amrywiol laswelltydd garw, gan gynnwys Troed y Ceiliog, Pefrwellt a Hesg.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Cymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon
- Wedi’i ddosbarthu’n helaeth ar draws y rhan fwyaf o Gymru, Lloegr ac Iwerddon. Yn gyffredin ar draws gorllewin yr Alban ond yn absennol o’r rhan fwyaf o’r dwyrain, yn ogystal ag Ynysoedd Heledd a Shetland.
Cynefin
Mae’n mynychu rhychwant amrywiol o gynefinoedd llaith, gan gynnwys mignedd, glaswelltir corsiog, gweundir gwlyb a choetir agored llaith. Fe’i ceir weithiau mewn cynefinoedd mwy sych, gan gynnwys gerddi trefol.