Ceir y rhywogaeth yma yng nghoetiroedd de ddwyrain Lloegr, yng Nghaint, Sussex a Surrey, mae hi wedi cael ei chofnodi’n ddiweddar hefyd ar sawl safle yng ngogledd orllewin Lloegr, ac mae ardal Bae Morecambe yn gadarnle iddi. Mae’n gyfarwydd hefyd yn Swydd Henffordd a Swydd Caerloyw; adroddwyd am ei phresenoldeb yn Swydd Lincoln, ac mae wedi cael ei chofnodi yn y gorffennol mewn sawl sir arall.
Fe’i cysylltir ag un planhigyn bwyd yn unig, sef y Wialen Aur. Ymddengys bod Gwialen Aur yn dirywio, yn enwedig mewn coetiroedd ac ardaloedd o brysgwydd lle mae’n diflannu wrth i’r cynefin droi’n rhy gysgodlyd.
Tymor Hedfan
Mae’n hedfan rhwng mis Mai a mis Medi, ond yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf yn bennaf, a hynny mewn un genhedlaeth. Mae’n bosibl serch hynny bod yna ail genhedlaeth yn hedfan yn ardal y Burren, Iwerddon.
Maint a Theulu
• Teulu - Crambidae
• Maint - Bach
• Amryediad lled yr adenydd - 21mm
Statws o ran cadwraeth
- Llyfr Data Coch – Prin ar raddfa genedlaethol
- Rhywogaeth Adran 7 o brif bwysigrwydd dan y Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
- Lleol iawn, yn dirywio o bosibl
Planhigion Bwyd y Lindys
Mae’r lindys yn ymborthi ar flodau a dail Gwialen Aur (Solidago) ac ambell waith ar Fanadl Aur (Genista tinctoria).
Cynefin
Gellir dod o hyd iddo mewn llennyrch ac ar ymylon coetiroedd, yn ogystal â thir garw ar lethrau bryniau a chlogwyni, yn enwedig ar galchfaen.
Dosbarthiad
• Gwledydd: Lloegr, Yr Alban, Iwerddon a Chymru
• Yn lleol iawn ei ddosbarthiad ond gellir dod o hyd iddo o hyd mewn rhai coetiroedd yn ne ddwyrain a gorllewin Lloegr, yng Nghymru, yr Alban a de a gorllewin Iwerddon.

Koen Thonissen
Perlog Du Mannog - Anania funebris
Koen Thonissen

Bob Eade
Perlog Du Mannog - Anania funebris
Bob Eade

Catrin Hollingum
Perlog Du Mannog - Anania funebris
Catrin Hollingum