Mae dyfodol y Brithribin Brown yn y fantol yn Ne Orllewin Cymru wrth i wasgariad ei diriogaeth grebachu o fwy na’i hanner dros y degawd diwethaf, yn ôl astudiaeth newydd gan Gangen y De o Gwarchod Glöynnod Byw (BC).  

Gyda golwg ar wrthdroi’r dirywiad hwn, argymhellir y dylid ymatal rhag ffustio’r perthi Drain Duon sy’n hoff gynefin gan y glöyn byw hwn bob blwyddyn, a’u gadael heb eu torri bob yn ail flwyddyn.

Mae’r astudiaeth gan BC (Cangen y De) yn dangos mai tyddynod yw prif loches y rhywogaeth brin hon erbyn hyn; prin y mae’n dal i oroesi yn Ne Orllewin Cymru. 

Mae’r Brithribin Brown wedi’i restru dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhywogaeth o’r pwysigrwydd mwyaf i ddibenion cynnal ac ehangu bioamrywiaeth yng Nghymru. 

Brithribiniau Brown
Brithribiniau Brown

Dywedodd Richard Smith, o Gangen De Cymru o Gwarchod Glöynnod Byw: “Mae’r glöynnod byw aeddfed yn arfer byw ym mrigdwf y coed (Onn  yn nodweddiadol) yn bennaf, ond maen nhw’n dodwy eu hwyau ar egin newydd y Drain Duon isel eu twf sydd yn y perthi o dan y coed. Bydd yr wyau’n aros ar egin y Drain Duon trwy gydol y gaeaf, a bydd y lindys yn deor dros y gwanwyn canlynol. Mae hi wedi dod yn amlwg bod ffustio perthi neu brysgwydd yn fecanyddol yn ystod yr hydref a’r gaeaf yn dinistrio 80-90% o’r wyau. Os parheir i wneud hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’r boblogaeth fythol ostyngol yn diflannu o fewn dwy neu dair blynedd.”

Y cyngor gan arbenigwyr cynnal perthi yw mai bob tair neu bedair blynedd y dylid tocio perthi. Serch hynny, mae’n ymddangos mai’r arfer cyffredin ar y rhan fwyaf o ffermydd yw ffustio perthi’n fecanyddol bob hydref/gaeaf. Mae’r ffustio blynyddol yma’n ddwysach o lawer na’r dulliau rheoli traddodiadol sy’n seiliedig ar lafur corfforol, sef trin perthi ar gylchdro bob rhyw dair neu bedair blynedd efallai. 

Mae’r astudiaeth yn seiliedig ar arolygon dwys a gynhaliwyd yn rheolaidd gan wirfoddolwyr dros 20 mlynedd. Mae’n dangos bod Brithribinau Brown sy’n epilio ar berthi ar borfeydd isel gwastad, gwlypach yn aml  (yn enwedig ar hyd Cymoedd Taf a Thywi, yn ardaloedd Sanclêr, Caerfyrddin a Phontargothi) wedi dioddef yn arbennig oherwydd yr arferion hyn. Ar y llaw arall, mae glöynnod byw sy’n defnyddio perthi ar lethrau canol a rhannau isaf Cwm Teifi, sydd yn aml yn perthyn i dyddynnod ac yn llai hawdd i’w trin â pheirianwaith, mewn gwell sefyllfa i oroesi yn y dirwedd. 

Brithribiniau Brown
Brithribiniau Brown

Mae’r astudiaeth yn datgelu hefyd, hyd yn oed mewn ardaloedd lle mae rheolaeth y perthi’n dal i ddigwydd ar gylchdro traddodiadol neu afreolaidd, fod y rhywogaeth hon yn dal i ddiflannu os mai dulliau rheoli perthi dwysach yw’r drefn a ddefnyddir amlaf yn y dirwedd sydd o gwmpas.

Mae’n bosibl yn ogystal bod clwyf yr Onn a newid hinsawdd yn cyfrannu at ddirywiad diweddar y Brithribin Brown yng Nghymru, er nad yw hi’n hawdd cael hyd i dystiolaeth uniongyrchol i hyn. Mae’n fwy tebyg, serch hynny, bod y cynnydd ymddangosiadol yn yr arfer o ffustio bob blwyddyn yn ffactor o’r pwysigrwydd blaenaf yn nirywiad y Brithribin Brown, ac mae hyn yn rhywbeth y gall rheolwyr tir wneud rhywbeth yn ei gylch yn rhwydd drwy newid eu harferion.  

Argymhellion
Gyda golwg ar helpu’r Brithribin Brown i oroesi, mae’r astudiaeth hon yn awgrymu, yn achos caeau yn Ne Orllewin Cymru sy’n is na 150m uwchben lefel y môr, y dylai unrhyw berthi neu brysgwydd Drain Duon sydd ynddynt gael eu gadael heb eu tocio/ffustio fan lleiaf bob yn ail flwyddyn; yn ddelfrydol, dylid eu tocio/ffustio ar gylchdro tair/pedair blynedd. 

Yn ogystal, byddem yn disgwyl i Lywodraeth Cymru hyrwyddo arferion ffermio llai dwys, o ystyried ei hymrwymiad i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’r argyfwng ynghylch bioamrywiaeth. Dylai hyn nid yn unig fod yn fuddiol i’r Brithribin Brown, ond hefyd atgyfnerthu sefyllfa blodau gwyllt fel peillwyr ar hyd gwaelod perthi a darparu aeron yn fwyd ar gyfer adar yn yr hydref. Ar hyn o bryd mae gormod o berthi’n cael eu gor-reoli ac yn gynefin digroeso i fywyd gwyllt. Dylai’r gostyngiad o fwy na 50% yng ngwasgariad tiriogaeth y Brithribin Brown dros y degawd diwethaf yma sefyll fel rhybudd inni o’r angen i arferion newid. 

Mae gan Gwarchod Glöynnod Byw yn Ne Cymru daflen gyngor a chynllun bathodynau i’w gosod ar byst giât ger “Perthi Sy’n Gyfeillgar i Löynnod Byw” priodol – beth am i chi ymuno â balchder?