Ceir yma olion o’r porfeydd rhostir a fodolai unwaith dros rannau helaeth o haenau glo De Cymru. Tirwedd fwyn ydyw â glaswelltir gwlyb a gweundiroedd wedi’u hamgylchynu gan berthi aeddfed.
Newyddion o’r Warchodfa
Mehefin 2022: Mae gre o Ferlod Mynydd Cymreig a gyr o wartheg Dexter wrthi’n prysur agor eangderau o laswellt rhy doreithiog gan sicrhau cynefin addas i Fritheg y Gors yng Nghaeau Ffos Fach.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyfoeth Naturiol Cymru, porfelwyr cadwraethol lleol a’n tîm ni o wirfoddolwyr gwych er mwyn gwneud yn siŵr y bydd ein darn ni o’r dirwedd hanfodol bwysig hon yn dal i estyn croeso i’r rhywogaeth brin hon, Britheg y Gors.
lLEOLIAD
Côd post SA14 6SF
Cyfeirnod grid: Cyfeirnod Map Ordnans mynedfa’r safle yw: SN576119
Y dref agosaf: Rhydaman, Sir Gâr
HANES GWARCHODFA CAEAU FFOS FACH
Agorodd Gwarchod Glöynnod Byw y warchodfa hon yn 2003. Roedd rhan helaeth o’r tir wedi cael ei rheoli mewn modd traddodiadol heb wrteithiau artiffisiol a’i defnyddio i bori gwartheg a cheffylau, gan adael i fioamrywiaeth gyfoethog ffynnu gan gynnwys Britheg y Gors.
DISGRIFIAD, A’R NODWEDDION ALLWEDDOL
Mae’r warchodfa’n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac o Ardal Gwarchodaeth Arbennig Mynydd Mawr sydd o bwys cenedlaethol oherwydd ei phoblogaeth epilio o löynnod byw
Britheg y Gors yn ogystal â’r ffaith ei bod yn esiampl o fath o gynefin sy’n cyflym ddiflannu, sef glaswelltir corsiog a elwir hefyd yn borfa frwyn neu Borfa Rhostir. Mae yno bum cae o laswelltir tonnog isel wedi’u hamgylchynu gan berthi a choed llawn dwf. Glaswelltir a gweundir corsiog sydd yma’n bennaf, a gedwir dan reolaeth trwy bori cyfyngedig er mwyn cynnal y cynefin sydd orau gan Fritheg y Gors a hyrwyddo tyfiant Tamaid y Cythraul (Bara’r Cythraul), y planhigyn y bydd ei lindysau’n ymborthi arno. Mae’r glöynnod byw yn arfer hedfan ar ddechrau’r haf mewn tywydd sych twym.
RHYWOGAETHAU ALLWEDDOL I CHWILIO AMDANYNT
Glöynnod Byw: Britheg y Gors, Y Gweirlöyn Cleisiog
Gwyfynod: Y Llinell Ddwbl, Y Blaen Brown Bach, Yr Hen Wrach
Planhigion nodedig: Tamaid y cythraul, Ysgallen y ddôl, Aethnen, Carwe troellog, Carpiog y gors, Ystrewlys
Rhywogaethau gwyllt eraill Y pathew, Y troellwr bach.
GWEITHGAREDDAU RHEOLI
Torri prysgwydd
Pori rheoledig gan ddefnyddio bridiau gwartheg traddodiadol a merlod.
SUT I GYRRAEDD
Ar y ffyrdd
O’r Dwyrain: Wrth gyrraedd Gwasanaethau Pont Abraham ar yr M4 dilynwch yr A48 tua’r gorllewin i gyfeiriad Caerfyrddin. Ar ol rhyw 3 1/2 milltir cymerwch y ffordd ymadael wrth yr arwydd i Barc Manwerthu a Busnes Cross Hands (h.y. cyn prif gylchfan Crosshands); trowch i’r dde wrth y gylchfan fach gan groesi’r bont uwchben yr A48. Ewch syth ymlaen wrth y gylchfan fach nesaf gan gymryd y tro nesaf i’r dde wedyn i Heol y Waun (Meadows Road).
Ar ôl rhyw 1/4 milltir, mae Heol y Waun yn troi tua’r chwith, ac mae’r warchodfa ar yr ochr chwith. Parciwch ar y llain welltog ar yr ochr dde, y tu draw i’r tai. Cofiwch beidio blocio mynedfeydd y tai. Gochelwch rhag traffig cyflym ar Heol y Waun.
O’r Gorllewin: Dilynwch yr A48 tua’r dwyrain i gylchfan Cross Hands; cymerwch y drydedd allanfa yno gan ddilyn y briffordd tua’r dwyrain i gyfeiriad Abertawe am ryw 1/2 milltir. Cymerwch y ffordd ymadael wrth yr arwydd i Barc Manwerthu a Busnes Cross Hands. Trowch i’r chwith wrth gyrraedd y gylchfan fach gan gymryd y tro nesaf i’r dde wedyn i Heol y Waun (Meadows Road).
Ewch ymlaen yn unol â’r cyfarwyddiadau uchod ar gyfer cyrraedd o’r Dwyrain.
Beicio Mae Llwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn pasio trwy Gwm-y-glo sydd ychydig i’r gogledd o Cross Hands.
Ar y bws Mae bysus yn rhedeg i bentref Cross Hands o Gaerfyrddin a Rhydaman.
Ar y trên Yr orsaf agosaf yw Rhydaman.
Chwiliwch am y manylion diweddaraf ar wefan deithio megis Traveline: http://www.traveline-cymru.info/
Mae’n daith gerdded o ryw 1km o Swyddfa Bost Cross Hands i’r warchodfa.
MYNEDIAD I’R SAFLE A DIOGELWCH
Mae camfa wrth ochr y fynedfa, ac un arall ychydig ymhellach ymlaen i fynd i mewn i’r cae cyntaf. Mae’r llawr yn wlyb ac yn dwmpathog, a bydd gwartheg yn pori yno yn ystod yr haf. Gadewch glwydi ac ietiau fel y dewch chi o hyd iddynt.
CYFLEUSTERAU
Y siopau agosaf: Parc Busnes Cross Hands (sy’n cynnwys archfarchnad y Co-op, siop fawr Leekes a chaffés) a phentref Cross Hands (siopau bach lleol)
CYSWLLT
Clare Williams, Swyddog Cadwraeth Cymru
E-bost: [email protected]
Ffôn: 01792 642972 / 07974 158814