A large, strong-flying butterfly restricted to the Norfolk Broads, although migrants are occasionally seen elsewhere. Pale yellow wings with black veins and blue margins.

This is one of our rarest and most spectacular butterflies. The British race britannicus is a specialist of wet fenland and is currently restricted to the Norfolk Broads. Here the adults can be seen flying powerfully over open fen vegetation, stopping to feed on flowers such as thistles and Ragged-Robin.

Glöyn disylw yw Gweirlöyn Bach y Waun, nad yw’n arfer hedfan ond pan fydd yr haul yn tywynnu; anaml y bydd yn glanio’n uwch na metr uwchben y ddaear. Mae’n cadw ei adenydd ar gau bob amser pan fydd yn llonydd. Mae smotiau ar ffurf llygaid ar flaenau wyneb isaf yr adenydd blaen. Gwelir bandiau brown, llwyd a lliw hufen ar yr ôl-adenydd. Mae nifer y deoreidiau a’r cyfnodau hedfan yn amrywio, ac mae’r oedolion i’w gweld yn barhaus o ddiwedd mis Ebrill tan fis Medi ar rai safleoedd yn ne Lloegr.

Mae ganddo is-adenydd brown â rhibin gwyn ar siâp W, ymyl lliw oren a chynffonau bach. Mae’r Brithribin Du’n debyg ond mae ganddo res o smotiau du ar yr adain ôl. Mae gan y Brithribin Gwyn y ffordd grwydrol droellog o hedfan sy’n nodweddiadol o’r Brithribiniau i gyd.

Mae’n anodd ei weld wrth iddo hedfan o gwmpas copaon y coed, yn enwedig ymhlith Llwyfenni. Mae’n disgyn weithiau i lefel y ddaear i hel neithdar o flodau, yn enwedig gwyros (coed prifet) a mieri.

Glöyn lliw oren a brown sy’n bolaheulo’n aml ar waliau, cerrig a daear galed lom.

Arferid ei weld ar hyd yr arfordiroedd cyn iddo ymledu’n ehangach yng ngogledd Lloegr a de’r Alban. Mae’n debyg o ran ei faint a’i liw i Weirlöyn y Perthi, ond mae patrymau Gweirlöyn y Cloddiau’n fwy cymhleth ac fe’i camgymerir weithiau am un o’r Brithegion bach.

Mae Britheg y Gors dan fygythiad nid yn unig yng ngwledydd Prydain ond ledled Ewrop, ac o ganlyniad mae ymdrechion aruthrol yn cael eu neilltuo ar gyfer y gwaith o’i achub.

Mae adenydd siecrog y rhywogaeth brydferth hon yn loywach eu patrymau na rhai’r brithegion eraill, a gwelir hiliau ohonynt â marciau mwy amlwg yn yr Alban ac Iwerddon. Mae’r larfâu’n gweu gweoedd tra gweladwy y gellir eu cofnodi’n hawdd tua diwedd yr haf.

Glöyn gwyn a du deniadol neilltuol yw’r Gweirlöyn Cleisiog, y mae’n anodd ei gamgymryd am unrhyw rywogaeth arall. Ym mis Gorffennaf mae’n hedfan ar draws glaswelltiroedd heb eu gwella, lle gall fod yn niferus iawn. Mae’n dra hoff o flodau porffor megis Mintys y Graig, Clafrllys, Ysgall a Llysiau Pengelyd. Gellir gweld y glöynnod mewn oed yn clwydo hanner ffordd i lawr coesau glaswellt tal. 

Fe’i ceir ledled Lloegr ac ar safleoedd gwasgarog yng Nghymru ond mae’n mynd yn brinnach brinnach. Mae’r adenydd yn ddu neu’n frown tywyll, ac arnynt batrwm ‘bwrdd draffts’ o smotiau gwynion. Glöyn bach â phatrwm hedfan isel gwibiog yw hwn. Mae’r Gwibiwr Llwyd yn debyg iddo o ran maint, ond mae adenydd hwn yn welwach o lawer.

Un o’n brithegion ehangaf eu hamrediad yw’r Fritheg Werdd; gellir ei gweld yn hedfan yn chwim mewn gwahanol gynefinoedd heulog agored. Mae’r gwrywod yn debyg eu golwg i’r Fritheg Frown, sy’n brinnach o lawer ond a welir weithiau’n cyd-hedfan â hwy ar lethrau rhedynog. Gellir gwahanu rhyngddynt trwy wylio’r marciau ar yr is-adenydd, a welir tra’u bod yn ymborthi ar flodau megis ysgall.

Mae niferoedd y Fritheg Werdd wedi dirywio mewn rhannau o ganolbarth a dwyrain Lloegr, ond erys yn niferus yn lleol yng ngorllewin Lloegr,  ar hyd arfordir Cymru ac yn yr Alban.

Mae’r glöyn bach hwn i’w weld yn nodweddiadol ar laswelltir sialc a chalchfaen deheuol ond mae’n byw hefyd mewn amryw gynefinoedd agored eraill mor bell i’r gogledd â Gogledd Cymru a Swydd Efrog. Mae’n perthyn yn agos i Argws Brown y Gogledd, nad yw’n ffynnu y tu allan i’r Alban a Gogledd Lloegr.

The males have triangular grey-brown forewings with dark-edged jagged crossbands which are distinctively held overlapping at rest. The females are completely wingless with a barrel-shaped body and a tuft of hairs on the end of the abdomen. The adult males flay after dark and are attracted to light.

The light green caterpillars can be found from late April to June overwintering as pupae in a fragile cocoon under the ground.

Subscribe to Wales